Y Grŵp Trawsbleidiol ar gyfer y Sector Gweithgareddau Awyr Agored

Cyfarfod #8

Dyddiad ac amser: Dydd Iau 14 Rhagfyr 2023, 10:00 - 12:00

Lleoliad: Canolfan Summit, Yr Hen Lofa Ddrifft, Trelewis, Treharis, CF46 6RD (ac ar-lein)

Yn bresennol yn y cnawd

Sam Rowlands – Cadeirydd; Paul Donovan - Ysgrifennydd & WATO; Rebecca Brough - Ysgrifennydd - a Ramblers Cymru; Graham French – Prifysgol Bangor a AHOEC; Gareth Rogers – Tîm Ymchwil y Senedd; Paul Renfro - PCF a WATO; Rachel Cilliers - Rock UK; Kerrie Gemmill - Scouts Cymru; Eben Muse – BMC; Andy Meek - AHOEC a Storey Arms OEC; Rhys Thomas (Sam Rowlands); Phil Stone – Canŵ Cymru

Yn bresennol ar-lein

Emma Edwards-Jones - Eryri-Bywiol a WATO; Dave Harvey - Ymgynghorydd Dysgu Awyr Agored; Kate Ashbrook - OSS; Simon Patton - MTC; Catherine Williams - Eryri-Bywiol a WATO; Alison Roberts - Cyfoeth Naturiol Cymru; Chris Pierce - AHOEC a Woodlands OEC; Tom Carrick - BMC; Dave MacCullum - Cyfoeth Naturiol Cymru; Steph Price - DoE; WCfOL; David Boden - Cymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain; Tom Davies a Gerallt Owen

Ymddiheuriadau

Paul Frost – TOP; Paul Airey – TOP; Tracey Evans – TOP; Mark Jones – TOP; Lun Roberts - IOL

Steve Rayner - SWOAPG a WATO; James Hodges - Rock UK; Tom Sharp - WSA; Gwenda Owen - Cycling UK; Sue Williams - Cyfoeth Naturiol Cymru a WCfOL; Helen Donnan - BHS; Dawn Thomas - IOL; Gethin Thomas - BCA-QMA, Steven Morgan - Plas Menai a Cefin Campbell - AS

 

 

Croeso, Cyflwyniadau, Ymddiheuriadau a Sylwadau Agoriadol

Croesawodd y Cadeirydd y rhai a oedd yn bresennol, cadarnhawyd bod cofnodion wedi'u hanfon at aelodau’r grŵp a bod y camau gweithredu a ddeilliodd o'r cyfarfod diwethaf wedi'u cwblhau.

O ran y cyflwyniad ar y Bil Addysg Awyr Agored, eglurodd SR bod gwahaniaeth clir rhwng ei rôl fel cyflwynydd y Bil Aelod Preifat a’i rôl fel Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol.

 

Cyflwyniad 1:

Bil Addysg Awyr Agored Breswyl (Cymru)

Dave Harvey, Graham French a Gareth Rogers

Amlinellwyd cefndir a statws y Bil: treuliwyd dwy flynedd yn paratoi, yn ymgynghori, ac yn datblygu’r Bil cyn ei gyflwyno i’r Senedd ym mis Tachwedd 2023.

Mae ethos y Bil yn cyd-fynd ag ystod eang o agendâu Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y cwricwlwm newydd i Gymru, ac mae’n symud oddi wrth yr egwyddor bod addysg awyr agored yn cyfoethogi profiadau i sefyllfa lle mae hawl i gael addysg o’r fath.

Mae arolygon ymhlith y sector wedi darparu sylfaen dda ar gyfer deall beth yw capasiti’r sector a’r anghenion o ran cymorth. Cafwyd digon o sylwadau cadarnhaol yn nhrafodaethau’r Senedd ynghylch bwriadau’r Bil, gyda’r pryderon yn ymwneud yn bennaf â chostau.

Mae’r Memorandwm Esboniadol yn rhoi cyd-destun y ddarpariaeth bresennol, y buddion, canfyddiadau’r ymgynghoriad, aliniad polisi a thystiolaeth o pam mae angen Bil. Mae’n werth nodi’r pwyntiau o ran mynd i’r afael ag anghydraddoldebau hirdymor mewn canlyniadau, a thwf yn y nifer sy’n cymryd rhan mewn addysg yn yr awyr agored yn y dyfodol ynghyd â thwf y sector ei hun. (Gellir darllen y Memorandwm Esboniadol yma)

Mae’r Bil bellach yn destun proses graffu yng Nghyfnod 1. Y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yw’r prif bwyllgor craffu. Mae ymgynghoriad agored y Pwyllgor yn parhau tan 19 Ionawr, ac mae sesiynau dystiolaeth gyda rhanddeiliaid ar y gweill. Bydd y Pwyllgor yn cyflwyno adroddiad erbyn diwedd mis Mawrth 2024. Mae’r Pwyllgor Cyllid, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad hefyd yn ystyried y Bil.

Ar ôl i’r Pwyllgor gwblhau ei waith craffu, cynhelir dadl gan y Senedd ar yr egwyddorion cyffredinol, wedi’i llywio gan adroddiadau’r pwyllgor, ac yna ceir pleidlais ym mis Ebrill 2024.

Os bydd y Bil yn symud ymlaen i’r camau nesaf, sef gwelliannau a’r bleidlais derfynol, rhaid i’r Llywodraeth gyflwyno penderfyniad ariannol (o fewn 6 mis). Heb benderfyniad o’r fath, bydd y Bil yn methu. Os bydd pleidlais yn 50/50, bydd y Bil yn parhau (bydd pleidlais fwrw’r llywydd o blaid y Bil).

Mae trafodaethau'n cael eu cynnal rhwng SR a Gweinidogion y Llywodraeth ynghylch ymarferoldeb a bwriadau'r Bil, a'r pwysau cyllidebol.

Gall y sector helpu drwy ymateb i'r ymgynghoriad; gwahodd Aelodau’r Senedd i ymuno â gweithgareddau neu ymweld â chanolfannau, gan gefnogi ymgyrchoedd ei gilydd sy’n ymwneud â’r awyr agored (e.e. ymgyrch y Sgowtiaid.) Bydd cyfnod ar ôl y Nadolig yn hollbwysig ar gyfer hybu’r ymgyrch yn rhagweithiol.

Dywedwyd nad yw'r economi ranbarthol/sector twristiaeth wedi ymgysylltu'n llawn eto gan wneud y cysylltiad bod darpariaeth addysg awyr agored yn weithgaredd twristiaeth. Mae angen rhagor o drafodaethau, gan gynnwys drwy fforymau fel y Grŵp Trawsbleidiol ar Dwristiaeth.

Trafodwyd hefyd mai dyma gyfle Cymru i gamu ymlaen ac arwain – mae diddordeb rhyngwladol gan y sector addysg awyr agored yn hynt y Bil hwn.

Diolchodd SR i'r aelodau am eu cefnogaeth ac ailadroddodd yr effeithiau trawsnewidiol posibl ar ddisgyblion, yr effeithiau ar lesiant, a’r effeithiau cadarnhaol ar yr economi a thwristiaeth.

 

Cyflwyniad 2:

Gwerthusiad Economaidd a Chymdeithasol o'r Sector Gweithgareddau Awyr Agored yng Nghymru - y camau nesaf …….

Paul Renfro: Fforwm Arfordirol Sir Benfro a Sefydliad Twristiaeth Antur Cymru

Amlygwyd y cysylltiadau rhwng y Bil a thuedd a chyfranogiad yn y sector gweithgareddau awyr agored yn y dyfodol, a’r effeithiau economaidd a chymdeithasol cadarnhaol i Gymru.

Roedd rhai o’r prif ganlyniadau a chanfyddiadau yn cynnwys y canlynol:

·         Mae gwaith ymchwil wedi gosod llinell sylfaen ar gyfer creu cynllun strategol ar gyfer y sector twristiaeth antur.

·         Mae’r sector wedi dangos twf a newid (ers arolwg 2014) gyda chanfyddiadau trawiadol o ran y manteision i iechyd meddwl unigolion, ac mai dyma sy’n ysgogi 99% o bobl i gymryd rhan mewn gweithgareddau o’r fath. Mae’r sector yn cyflawni canlyniadau pwysig i iechyd meddwl a llesiant (gwerth £26.5 miliwn i Gymru).

·         Mae gan Gymru enw da am sicrhau lefelau boddhad uchel i ymwelwyr.

·         Effaith economaidd o £272.87 miliwn y flwyddyn; £205 miliwn yn aros yng Nghymru – rhan allweddol o’r economi sylfaenol.

·         Cefnogir 31,000 o swyddi / mae 21% o dwristiaeth ac ymwelwyr yn aros yn hirach, yn gwario mwy, ac yn ymddwyn yn briodol.

·         Amcangyfrifir y gallai'r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl gynhyrchu £9.9 miliwn - £13.6 miliwn o wariant ychwanegol, y byddai tua 70% ohono'n aros yng Nghymru.

·         Byddai cynyddu’r lefelau cyfranogiad 10% yn ychwanegu gwerth cymdeithasol o £187 miliwn.

Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad llawn.

Tynnwyd sylw at y ffaith mai’r Bil Iechyd Meddwl yw’r Bil Aelodau Preifat y tymor hwn, a gyflwynwyd i’r Senedd ddoe, a gallai hwnnw gyflwyno cyfleoedd sy’n gysylltiedig â’r gwaith ymchwil hwn i werth llesiant.

Datblygir cynllun strategol ar gyfer y sector twristiaeth antur, i greu rhagor o fanteision ar draws rhagor o flaenoriaethau. Mae angen cael dull sy’n ystyriol o’r diwydiant i leihau'r bwlch sgiliau o fewn busnesau a sefydlogi'r cynnig presennol; mae angen llwybr clir i'r sector gyda sgiliau priodol, gan gynnwys dysgu gydol oes, canlyniadau iechyd, ac ati; mae angen rôl gefnogol i ddarparwyr mewn twristiaeth gynaliadwy a chyfrifol; mae angen datblygu sector strategol mwy effeithiol yn unol â meysydd blaenoriaeth ehangach, er enghraifft yr economi, iechyd, manteision dysgu gydol oes.

Roedd y pwyntiau trafod yn cynnwys:

·         Sut y mae'r sector yn cysylltu ag ysgolion ar gyfer profiad gwaith / cymwysterau / hyrwyddo gyrfaoedd; mae rhywfaint o hyn yn digwydd, ond nid yw’n cael ei gefnogi’n eang ar hyn o bryd drwy strwythurau ffurfiol, ac mae unrhyw gysylltiad yn cael ei wneud yn aml gan gysylltiadau busnes unigol. Mae datblygiadau diweddar yn cynnwys cymwysterau lefel 3 newydd Agored Cymru (a ddatblygwyd gan gyflogwyr yn y sector) ac er bod rhai cysylltiadau ar waith, mae llawer o botensial i ddatblygu’r cymwysterau newydd a’u hymwreiddio. Nid oes unrhyw brentisiaethau penodol ar hyn o bryd, a gall profiad gwaith fod yn heriol, oherwydd pryderon iechyd a diogelwch, ond mae potensial am fwy o gysylltiadau mewn ardaloedd lleol, ac mae angen am ddull mwy strwythuredig o hyrwyddo cyfleoedd i bobl ifanc.

·         Mwy o ffocws ar lwybrau gyrfa gwyrdd, gan gynnwys drwy arian y loteri a llwybrau gwirfoddoli, a all fod yn ddefnyddiol yn y maes hwn.

·         Ystyried rhinweddau dadansoddi’n fanylach werth gwahanol weithgareddau antur – gallai hyn fod yn bosibl ond byddai angen adnoddau i gomisiynu'r dadansoddiad.

·         Sut i gyflawni’r cynnydd o 10% mewn cyfranogiad a llesiant – diwygio trefniadau o ran mynediad? Cyflawni cynnydd heb effeithiau negyddol? Mae gwaith ar y gweill yn archwilio sut y mae busnesau'n gweithredu, a sut y maent yn cael eu cefnogi i gynyddu allbynnau llesiant yr hyn y maent yn ei gynnig i roi'r budd cyffredinol mwyaf.

·         Effaith bosibl newidiadau i'r flwyddyn ysgol drwy ddileu wythnos o'r gwyliau haf ac ychwanegu at dymor wyliau’r hydref pan fydd y tywydd yn debygol o fod yn waeth. A yw hyn yn cael ei ystyried? Mae WATO yn rhannu ymgynghoriadau gyda rhwydweithiau fel y gall busnesau ddweud eu dweud, ond mae'n debyg na fydd consensws.

·         Mae gan y Bartneriaeth Awyr Agored bersbectif cyfannol, gan edrych ar draws gwahanol feysydd i ddatblygu strategaeth gyfannol a all gynnwys gweithgareddau hamdden awyr agored a thwristiaeth antur etc.

Bydd y strategaeth yn cael ei datblygu mewn ymgynghoriad â Llywodraeth Cymru a Croeso Cymru drwy gydweithio a thrafod. Mae'r gwaith ymchwil wedi'i rannu'n eang, ac awgrymwyd bod gwerth ei rannu gyda'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol.

Mae WATO yn bwriadu mabwysiadu agwedd gyfannol wrth geisio datblygu strategaeth ar gyfer twristiaeth antur, ac wrth wneud hynny bydd yn cysylltu ag agweddau amrywiol y sector awyr agored ehangach i sicrhau ei fod yn cydnabod eu cyfraniad a'u safle, heb gamu ar eu traed. Mae WATO yn cydnabod nad yw'r sector awyr agored yn gweld unrhyw ffiniau i’r hyn y mae'n ei gynnig, ond mae'n cydnabod bod y rheini y tu allan i'r sector awyr agored yn gweld dull gweithredu mor gynhwysol yn heriol.

Pwysleisiodd SR nad yw'r Bil Addysg Awyr Agored yn cael ei gyflwyno fel rhywbeth sy'n berthnasol i addysg yn unig; mae ganddo berthnasedd trawsbortffolio, yn enwedig, iechyd, twristiaeth a'r economi.

Efallai mai’r hyn sy’n cyfyngu’r ymchwil yw’r amserlen fer ar gyfer casglu data, a’i fod yn giplun mewn amser, ond roedd yn hyderus bod y dadansoddiad yn gadarn ac yn gogwyddo i amcangyfrifon ceidwadol. Roedd rhai heriau yn sgil diffyg data ar gyfer Cymru a gorfod cael gafael arno o ffynonellau sy’n berthnasol i Loegr.

CAM GWEITHREDU: Rhannu ymchwil gyda'r Fforwm Mynediad Cenedlaethol a Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol

Sylwadau i gloi, crynodeb a chamau gweithredu

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am fod yn bresennol, ac i Ganolfan Summit ROCK UK am gynnal y cyfarfod. Ymhellach, diolchodd yn bersonol am gefnogaeth y sector i’r Bil Addysg Awyr Agored Breswyl, a rhannodd ei optimistiaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

CAM GWEITHREDU: Yr Ysgrifenyddiaeth i rannu’r cofnodion a’r cyflwyniadau gyda'r Cadeirydd, er mwyn iddynt gael eu hanfon ymlaen at Aelodau'r Senedd a Gweinidogion

Dyddiadau cyfarfodydd yn y dyfodol

Cyfarfod 9 (gan gynnwys y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol): Dydd Mercher 13 March 2024 12:00-13:00 yn Nhŷ Hywel ac ar-lein – manylion i ddilyn

Cyfarfod 10: Dydd Mercher 5 Mehefin 2024 12:00-13:00 yn Nhŷ Hywel ac ar-lein – manylion i ddilyn